Meddygfa Victoria Surgery

BBC | Health News
2.0RSSBBC News | Health | UK EditionUpdated every minute of every day.Probe into gender abortion claimsThe Department of Health launches an inquiry into claims that doctors agreed to carry out abortions on the grounds of the sex of unborn babies.Thu, 23 Feb 2012 07:14:57 GMThttp://www.bbc.co.uk/go/rss/int/news/-/news/health-17136213Time link to sudden cardiac deathHow the time of day can increase the risk of dying from an irregular heartbeat has been identified by researchers.Wed, 22 Feb 2012 18:07:17 GMThttp://www.bbc.co.uk/go/rss/int/news/-/news/health-17127649Skin cancer drug hopes from studyA new treatment for advanced skin cancer almost doubles survival times, according to an international study.Thu, 23 Feb 2012 02:19:29 GMThttp://www.bbc.co.uk/go/rss/int/news/-/news/health-17128925


Siarter Claf y Practis

Bydd y practis yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gofal o safon uchel i’r cleifion, a byddwn bob amser yn ceisio gweld sut mae gwella’r gwasanaethau i’r cleifion. Yr ydym wedi rhestru'n isod safonau’r gwasanaeth y gallwch ei disgwyl gan y practis hwn. Gofynnwn i chi gydweithio gyda ni trwy ddangos cwrteisi tuag at ein staff.

Safonau Gofal

Fel claf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi cofrestru gyda’n practis ni, bydd gennych yr hawl i’r canlynol:

• Cwrteisi a pharch oddi wrth ein staff.

• Preifatrwydd a chyfrinachedd wrth siarad ag unrhyw aelod o’r staff.

• Byddwch yn cael apwyntiad y diwrnod hwnnw os byddych angen gweld y Meddyg ar frys, neu gyn gynted ag y bo modd.

• Eglurhad clir am unrhyw driniaeth a gynigir i chi gan dîm ein practis.

• Bydd eich meddyginiaethau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd os ydych yn derbyn amlbresgripsiwn.

• Byddwch yn cael eich cyferio at Feddyg Ymgynghorol sy’n dderbyniol i chi, pan fydd eich

Meddyg Teulu yn meddwl bod angen gwneud hynny, a byddwch yn cael eich hanfon i gael ail-farn os ydych chi a’ch Meddyg Teulu yn cytuno mai dyna fyddai orau.

• Mae’r Ddeddf Diogelwch Data yn rhoi hawl i chi gael mynediad i’ch cofnodion iechyd. Ysgrifennwch at Reolwr y Practis os ydych yn dymuno gweld y cofnodion hynny neu i wneud copïau ohonynt. Efallai y codir tâl bychan am y gwasanaeth hwn.

• Bydd eich ymholiadau dros y ffôn yn cael eu hateb yn syth, ac yn cael eu trin yn effeithiol.

• Byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniadau profion a phelydr-x a chanlyniadau cleifion allanol pan fyddwch yn gofyn amdanynt.

• Byddwn yn ymdrechu i fodloni pob cais am apwyntiad gan gleifion. Hefyd:

• Gall cleifion cofrestredig rhwng 16 a 74 oed sydd heb gael eu gweld ers 3 blynedd ofyn am ymgynghoriad.

• Gall cleifion cofrestredig dros 75 oed sydd heb gael eu gweld ers 12 mis ofyn am ymgynghoriad. Os nad ydych yn medru mynd i’r feddygfa i gael yr ymgynghoriad hwn oherwydd salwch, gallwn drefnu ymweliad cartref.

Sut y gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi

• Trwy fod yn gwrtais i bob aelod o’n staff.

• Trwy roi i’r Meddyg yr holl wybodaeth berthnasol am eich cyflwr a’ch hanes meddygol.

• Trwy roi gwybod i ni pan fyddwch yn symud t? neu’n newid eich rhif ffôn – mae’n rhaid i ni gael y manylion diweddaraf yn ein cofnodion.

• Trwy gadw apwyntiadau, a thrwy roi cymaint ag y bo modd o rybudd os byddwch yn gorfod eu delileu.

• Trwy ddefnyddio’ch apwyntiad ar gyfer un person yn unig.

• Trwy beidio â disgwyl presgripsiwn bob tro y byddwch yn gweld y Meddyg - mae dilyn ein cyngor yn gallu bod yn llawer mwy effeithiol na chyffuriau.

• Trwy roi rhybudd o dau ddiwrnod gwaith cyn casglu amlbresgripsiwn.

• Trwy gofio gwneud cais am ymweliad cartref cyn 10.00yb os ydych angen ymweliad cartref.

• Trwy alw’r Meddyg (y tu allan i oriau) mewn argyfwng yn unig ac nid i gael triniaeth arferol, apwyntiad neu bresgripsiwn.

Gallwch ein helpu trwy roi gwybod i ni pan na fyddwch yn fodlon gyda’r gwasanaethau a ddarperir gennym, neu os oes gennych sylwadau defnyddiol ynglyˆn â sut y gellir eu gwella. Mae blwch awgrymiadau ar gael ar gyfer eich sylwadau ynglyˆn â gwella ein gwasanaeth.

Y Drefn Gwyno


Byddwn bob amser yn ceisio darparu’r gwasanaethau gorau bosib, ond efallai y bydd adegau pan fyddwch yn teimlo nad yw hyn wedi digwydd. Mae’r wybodaeth canlynol yn egluro ein trefn cwyno mewnol sydd wedi ei llunio i ymateb i gwynion cleifion.

Nid yw trefn cwyno ein practis yn gallu ymdrin â chwestiynau ynglyˆn ag atebolrwydd cyfreithiol neu iawndal. Rydym yn gobeithio y byddwch yn defnyddio’r drefn i’n caniatáu ni i edrych i mewn i unrhyw broblemau yr ydych wedi eu canfod neu gamgymeriadau sydd wedi eu gwneud a’u cywiro lle bo angen. Os byddwch yn defnyddio’r drefn hon, ni fydd yn effeithio ar eich hawl i wneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Sylwch fod yn rhaid i ni barchu ein dyletswydd o gyfrinachedd i gleifion a bydd yn rhaid cael caniatâd y claf os na fydd cwyn yn cael ei wneud gan y claf ei hun. Os ydych am wneud cwyn, ffoniwch neu ysgrifennwch at Reolwr y Practis. Byddwn yn cymryd y manylion llawn ac yn penderfynu ar y ffordd orau i ymchwilio i’r mater.

Credwn ei bod yn bwysig ymdrin â chwynion yn syth, felly byddwch yn cael cynnig apwyntiad i gael cyfarfod i drafod y mater o fewn saith diwrnod. Weithiau bydd hyn yn cymeryd mwy o amser ond byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi trwy’r amser. Gallwch ddod â ffrind neu berthynas gyda chi i’r cyfarfod.

Byddwn yn ceisio ymateb i’ch pryderon, yn rhoi eglurhad i chi ac yn trafod unrhyw weithredu a fydd ei angen.

Cyfrinachedd

Bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol. Ni fydd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo heb eich caniatâd chi oni fydd hynny o fewn terfynau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, trwy fframwaith cyfreithiol, neu os bydd yn fater o ddiddordeb cyhoeddus. Gellir rhannu rhywfaint o ddata cleifion yn ddienw i ddibenion iechyd cyhoeddus ac awdit, ymchwil, dysgu a hyfforddiant. Mae’n arferiad ac yn ofyniad cyfreithiol fod pob aelod o’r staff yn diogelu cyfrinachedd cofnodion cleifion.

RHYDDID GWYBODAETH -CYNLLUN CYHOEDDIAD

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gorfodi y Practis i gynhyrchu Cynllun Cyhoeddiad. Mae'r Cynllun yn arweinydd i'r fath o wybodaeth mae'r practis yn bwyriadu rhoi ar gael yn arferol.
Mae manylion ar gael or cynllun yn y dderbynfa..

Cleifion Treisgar

Ni fydd y practis yn goddef trais (corfforol neu eiriol), AC MAE GENNYM YR HAWL I DYNNU ENWAU CLEIFION oddi ar y rhestr yn syth er mwyn diogelu staff y practis, cleifion ac ymwelwyr eraill. Bydd y claf yn cael gwybod mewn llythyr bod ei enw wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr, a bydd yn cael ei gofnodi yng nghofnodion meddygol y claf ynghyd â’r amgylchiadau arbennig a arweiniodd at hyn. Y Bwrdd Iechyd Lleol fydd yn gyfrifol wedyn am ddarparu gofal meddygol pellach.

spacer
Your Business Here
spacer
pay monthly websites
spacer
Tudur Owen Roberts Glynne & Co, Legal Services
spacer
O R Jones & Co - Funeral Directors
spacer
Valley Pharmacy
spacer