2.0RSSBBC News | Health | UK EditionUpdated every minute of every day.Probe into gender abortion claimsThe Department of Health launches an inquiry into claims that doctors agreed to carry out abortions on the grounds of the sex of unborn babies.Thu, 23 Feb 2012 07:14:57 GMThttp://www.bbc.co.uk/go/rss/int/news/-/news/health-17136213Time link to sudden cardiac deathHow the time of day can increase the risk of dying from an irregular heartbeat has been identified by researchers.Wed, 22 Feb 2012 18:07:17 GMThttp://www.bbc.co.uk/go/rss/int/news/-/news/health-17127649Skin cancer drug hopes from studyA new treatment for advanced skin cancer almost doubles survival times, according to an international study.Thu, 23 Feb 2012 02:19:29 GMThttp://www.bbc.co.uk/go/rss/int/news/-/news/health-17128925
GWYBODAETH AM EIN APWYNTIADAU
SUT MAE'R APWYNTIADAU YN GWEITHIO.... dydi ddim yn bosibl i gael apwyntiadau sydd yn gweithio i bawb, rydym yn teimlo fod y ffordd yma yn rhoi dewis o feddyg i'r claf os ydi'n bosibl, ac hefyd yn gwneud siwr fod cleifion gyda phroblemi brys yn cael ei gweld ar yr un diwrnod.
APWYNTIAD BRYS
Rydych angen apwyntiad brys os oes gennych broblem sydd methu aros tan yr apwyntiad arferol nesaf. Os ydych angen apwyntiad brys, cysylltwch a'r derbynyddion. Byddant yn gofyn am fanylion o'ch salwch, mae hyn yn sicrhau os oes angen i chwi weld y meddyg na'i ynteu fuasai nyrs yn gwneud.Os oes gennych broblem gyda'ch dwr, fydd rhaid dod a sampl dwr gyda chwi, os oed gennych boen yn y frest fydd rhaid i'r nyrs wneud profiad calon arnoch.
Mae apwyntiad brys yn cael ei gynnig o 8 y bore, os cysylltwch cyn 12 dydd fe gewch apwyntiad cyn cinio. Os ydych yn cysylltu ar ol 12 dydd, byddwn yn ymofyn i chwi ffonio a'r ol 3 y pnawn pan fydd rhagor a apwyntiadau brys yn cael ei gollwng, cewch apwyntiad y pnawn/noswaith honno. Mae ein meddygon yn cymeryd ei tro i wasanaethu'r feddygfa brys, yn anffotunus ni fedrwn adael i chwi wybod enw y meddyg.
APWYNTIAD ARFEROL
Fedrwch wneud apwyntiad arferol gyda feddyg o'ch dewis i fyny at bedair wythnos o flaen llaw, (os ydi gwyliau yn caniatau). Os ydych angen apwyntiad arferol cysylltwch a'r derbynyddion, a byddant yn hapus i roi apwyntiad nesaf i chwi.
Mae yna nifer o alwadau ffon peth cyntaf yn y bore am apwyntiadau brys, felly rydym yn gofyn i chwi gysylltu ar ol cinio am apwyntiad arferol.
Gwneud
Apwyntiad
Ffoniwch
Caergybi
(01407) 762713 }
gweler
Bodedern
(01407) 740242 }
yr oriau
Y Fali
(01407) 740706 }
agor
Mae yn posib gwneud apwyntiad ar y we. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Os
na allwch gadw apwyntiad, a fyddech ogystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted
ag y bo modd os gwelwch yn dda.
Plant Sâl
Bydd plant yn cael eu gweld cyn gynted ag y bo modd, os byddwch yn dod â nhw i’r feddygfa (gall hyn fod yn gynt na chael ymweliad cartref). Os nad ydych yn siwr ddylech ddod a’ch plentyn allan, ffoniwch y feddygfa gyntaf a gall y Meddyg eich cynghori.
Ymweliadau Cartref
(pan fydd y feddygfa ar agor)
Os ydych angen ymweliad
cartref heb fod yn achos brys, a fyddech cystal â chysylltu â ni cyn
10.00yb gan y bydd hyn yn osgoi oedi diangen.
Ar gyfer pob ymweliad yn
Ynys Gybi ffoniwch (01407) 762713
Ar gyfer pob ymweliad yn Ynys Môn ffoniwch
(01407) 740242
Mae y meddygon yn gwneud ymweliadau cartref ar ol Meddygfa y bore, os ydi'r alwad yn un ar frys, dywedwch wrth y staff.
Cofiwch
• Rhowch gyfarwyddiadau
clir ynglyˆn â sut i gyrraedd eich tyˆ, yn enwedig mewn ardaloedd
anghysbell.
• Nodwch pa mor ddifrifol yw’r broblem.
•
Eglurwch i’r derbynnydd beth yw natur y broblem
• Mae’r
ymweliadau cartref ar gyfer y bobl sy’n methu mynd i’r feddygfa am
resymau meddygol.
Cyngor
dros y Ffôn (pan fydd y feddygfa ar agor)
Cofiwch
egluro i’r derbynnydd os mai dim ond cyngor gan y Meddyg neu’r Nyrs
rydych ei eisiau.
Os bydd y meddyg wrth ei waith, efallai y gofynnir i chi
ffonio’n ôl pan fydd y meddyg yn llai prysur.
Hefyd mae Galw Iechyd
Cymru yn rhoi cyngor 24 awr y dydd, a gallwch gysylltu â nhw ar 0845 46
47.