Oriau Ymgynghori
| Caergybi |
| Meddygfa’r Bore |
Dydd Llun i ddydd Gwener |
9.00yb – 11.30yb |
| Meddygfa’r Hwyr |
Llun/Mawrth/Mercher/Gwener |
2.00yh – 6.00yh |
| Clinigau |
| Dydd Mawrth |
Imiwneiddio Plant |
1.30yh – 3.00yh |
| Bodedern |
| Meddygfa’r Bore |
Dydd Llun i ddydd Gwener |
9.00yb – 11.20yb |
| Meddygfa’r Hwyr |
Llun/Mercher/Gwener |
3.50yh – 5.50yh |
| Y
Fali |
| Meddygfa |
Llun/Mawrth/Gwener |
1.35yh – 3.00yh |
| Meddygfa |
Dydd Iau |
3.00yh – 5.00yh |
| Clinigau |
| Yr Ail a’r Pedwerydd dydd
Iau o bob mis |
Imiwneiddio Plant
|
9.30yb – 11.00yb |
Pan
fydd y Feddygfa ar Gau
Mewn argyfwng ffoniwch Caergybi 762713. Bydd eich galwad yn cael ei hateb neu byddwch yn derbyn neges gan y gwasanaeth y tu allan i oriau. Rhowch eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn.
Mae’r cyfnod tu allan i oriau yn golygu rhwng 6.30yh a 8.00yb yn ystod yr wythnos, a thrwy’r dydd a’r nos ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gwyl y Banc a Gwyliau Cyhoeddus. Mae’r gwasanaeth tu allan i oriau ar gyfer cleifion sydd angen gweld Meddyg, ar frys, yn ystod y cyfnod tu allan i oriau, ac sy’n methu disgwyl tan bydd y feddygfa ar agor nesaf. Pan fyddwch yn ffonio’r rhif Tu Allan i Oriau, bydd eich galwad yn cael ei hateb gan un o dderbynyddion Tu Allan i Oriau, yn Galw Iechyd Cymru a fydd yn penderfynu pa fath o alwad yw eich galwad chi – Argyfwng – Brys – Llai o Frys.
Byddant yn eich cynghori neu’n cysylltu â’r Meddyg a fydd ar ddyletswydd. Efallai y gofynnir i chi fynd i’r ganolfan Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi ar ddydd Sadwrn ac ar foreau Gwyl y Banc, neu i Feddygon Menai ym Mangor ar adegau eraill.
Cyfleusterau
ar gyfer Pobl Anabl
Mae rampiau a drysau llydan ym mhob un o’n meddygfeydd er mwyn hwyluso
mynediad i gleifion anabl. Mae toiledau addas ar gyfer cleifion anabl ym mhob
un o’n meddygfeydd.
Parcio Ceir
Mae’r
maes parcio ar gyfer cleifion yng nghefn adeilad Meddygfa Victoria. Maes parcio
bychan yw hwn, ac ni ddylid gadael ceir yno ac eithrio pan fyddwch yn mynd i’r
feddygfa. Mae rhai o’r lleoedd parcio wedi’u cadw ar gyfer y Meddygon.
A fyddech mor garedig â pheidio â chreu rhwystr yn y fynedfa gan fod
cerbydau brys yn ei defnyddio.