Bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol. Ni fydd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo heb eich caniatâd chi oni fydd hynny o fewn terfynau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, trwy fframwaith cyfreithiol, neu os bydd yn fater o ddiddordeb cyhoeddus. Gellir rhannu rhywfaint o ddata cleifion yn ddienw i ddibenion iechyd cyhoeddus ac awdit, ymchwil, dysgu a hyfforddiant. Mae’n arferiad ac yn ofyniad cyfreithiol fod pob aelod o’r staff yn diogelu cyfrinachedd cofnodion cleifion.