Y Meddygon Teulu
(partneriaeth anghyfyngedig)
Dr David Thomas Williams
MBBS Llundain 1982, MRCGP, DRCOG
Dr Sharon Wyn Bertorelli
MB, ChB Caerdydd 1988
Dr Gareth Ford
MBChB, Caerdydd 1990, MRCGP
Dr Ruth Johnson
BSc 1996, MBChB Lerpwl 1997, MRCS Glasgow 2002, MRCGP 2005, DFFP 2006
Dr Jane Roberts
Dr Emma Sutton
Staff y Practis
Mae ein staff yn gweithio gyda’r Meddygon Teulu i ddarparu cymorth a chyngor i’r cleifion ond weithiau gall eu gwaith fod yn anodd.
Os byddwch yn gorfod aros am hir neu’n cael eich blino gan gwestiynnau, cofiwch fod ein staff yn gweithredu’n unol â’n cyfarwyddiadau ni er mwyn gwneud yn siwˆr fod y practis yn cael ei redeg un effeithiol.
Mae’r practis yn cyflogi tua 24 o staff, a byddwch yn eu hadnabod wrth oddi eu gwisg. Gall ein staff amrywio fel y bydd anghenion y practis yn newid. Dyma’r staff ar hyn o bryd:
Rheolwr y Practis
Miss Caroline Earl sy’n rheoli gweithgareddau’r practis o ddydd i ddydd, ac mae ganddo gyfrifoldeb ariannol am gyfrifon y practis.
Derbynyddion
Mae gennym dderbynyddion yn y tair meddygfa, a’u gwaith yw cynorthwyo gyda’r gwasanaeth i’r cleifion a’r gwaith gweinyddu. Mae eu dyletswyddau’n cynnwys gwneud apwyntiadau, trefnu casglu amalbresgripsiynau, ffeilio ac adfer cofnodion meddygol.
Derbynyddion/Dosbarthu Meddyginiaethau
Mae’r staff hyn yn gweithio o’n meddygfeydd ym Modedern a’r Fali, ac maent yn darparu cefnogaeth i’r partneriaid, y cleifion a’r tîm gofal iechyd sylfaenol gyda gweinyddu, gwaith derbynfa a dosbarthu meddyginiaeth.
Ysgrifenyddion
Mae ein hysgrifenyddion yn darparu gwasanaeth llawn o gefnogaeth ysgrifenyddol i’r practis yn ogystal â gwaith gweinyddol cyffredinol i’r clinigau.
Nyrsys y Practis
Byddwch yn adnabod ein nyrsys oddi wrth eu gwisg nyrs glas. Maent yn darparu gwasanaeth gwerthfawr gan gynnwys rhedeg clinigau, trefnu brechiadau, rhoi cyngor ar iechyd, a rhoi profion gwaed. Dyma’u henwau a’u cymwysterau:
Bethan Hughes |
RGN, Bydwraig Gofrestredig |
Jane Rylance |
RGN |
Wendy Williams |
RGN |
Rebecca Jewell |
RGN |
Glenys Williams |
Cynorthwyydd Gofal Iechyd |
Staff Cysylltiol (Cyflogir gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
Ymwelwyr Iechyd
Ffôn: (01407) 766000
Bydd Ymwelwyr Iechyd sydd wedi eu lleoli yn Ysbyty Penrhos Stanley yn dod i’n tair meddygfa hefyd. Mae eu dyletswyddau’n cynnwys ymweld â’r holl deuluoedd sydd â phlant o dan bump oed, a rhedeg Clinigau Imiwneiddio Plant.
Nyrsys Cymunedol
Llinell uniongyrchol: (01407) 766000
Mae’r Nyrsys Cymunedol wedi eu lleoli yu Ysbyty Penrhos Stanley ac maent yn darparu gofal nyrsio i gleifion sy’n methu mynd i’r feddygfa.
Bydwragedd
Ffôn: (01407) 766000
Mae’r bydwragedd yn rhedeg ein clinigau cynenedigol yn Ysbyty Penrhos Stanley, ac maent hefyd yn ymweld â mamau cyn ac ar ôl geni. Byddant yn gofalu am y babi am y pythefnos gyntaf o’i bywyd.
Cynghorydd
Bydd Cynghorydd yn dod i’r feddygfa’n wythnosol i helpu cleifion sydd angen cwnsela. Trefnir apwyntiadau trwy’r Meddygon Teulu.
Dietegydd
Bydd Dietegydd yn dod i roi cyngor bob pythefnos. Trefnir apwyntiadau trwy’r Meddygon Teulu neu Nyrsys y Practis.
Meddygon Teulu dan Hyfforddiant/Myfyrwyr
Mae ein practis yn bractis hyfforddi/addysgu. Mae ein Meddygon dan hyfforddiant wedi eu cymhwyso’n llawn ac mae ganddynt lawer o brofiad o weithio mewn ysbyty. Bydd Meddygon dan hyfforddiant ynghlwm wrth ein practis am gyfnodau rhwng chwe mis a blwyddyn, ac mae cleifion yn gweld bod eu dull ffres a brwdfrydig o weithredu yn ychwanegu at y gofal iechyd yr ydym yn ei ddarparu. Gan amlaf bydd y Meddygon dan hyfforddiant yn dod yn bartneriaid Meddygon Teulu wedi iddynt gwblhau eu hyfforddiant, ac maent bob amser yn cael eu hannog i ofyn am gyngor oddi wrth bartneriaid y practis pan fyddant ei angen.
Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad, efallai y byddwn yn gofyn i chi a hoffech gael eich gweld gan un o’n Meddygon dan hyfforddiant. Maent yn Feddygon rhagorol ac wedi’u penodi gan y practis. Rydym yn hyderus y byddant yn rhoi triniaeth fodern, effeithiol a llawn gofal i’n cleifion.
Rydym yn ffodus hefyd o gael myfyrwyr meddygol ynghlwm wrth ein practis am gyfnodau byr. Gyda chaniatâd y claf gall y myfyrwyr meddygol fod yn bresennol gyda’r partneriaid er mwyn iddynt ddysgu am ymarfer cyffredinol.
Hefyd bydd Nyrsys sy’n fyfyrwyr ynghlwm wrth y Staff Nyrsio ar adegau.