Pan fydd y Feddygfa ar Gau
Pan fydd y Feddygfa ar Gau
Mewn argyfwng ffoniwch Caergybi 762713. Bydd eich galwad yn cael ei hateb neu byddwch yn derbyn neges gan y gwasanaeth y tu allan i oriau. Rhowch eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn.
Mae’r cyfnod tu allan i oriau yn golygu rhwng 6.30yh a 8.00yb yn ystod yr wythnos, a thrwy’r dydd a’r nos ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gwyl y Banc a Gwyliau Cyhoeddus. Mae’r gwasanaeth tu allan i oriau ar gyfer cleifion sydd angen gweld Meddyg, ar frys, yn ystod y cyfnod tu allan i oriau, ac sy’n methu disgwyl tan bydd y feddygfa ar agor nesaf. Pan fyddwch yn ffonio’r rhif Tu Allan i Oriau, bydd eich galwad yn cael ei hateb gan un o dderbynyddion Tu Allan i Oriau, yn Galw Iechyd Cymru a fydd yn penderfynu pa fath o alwad yw eich galwad chi – Argyfwng – Brys – Llai o Frys.
Byddant yn eich cynghori neu’n cysylltu â’r Meddyg a fydd ar ddyletswydd. Efallai y gofynnir i chi fynd i’r ganolfan Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi ar ddydd Sadwrn ac ar foreau Gwyl y Banc, neu i Feddygon Menai ym Mangor ar adegau eraill.