(partneriaeth
anghyfyngedig)
Dr David Thomas Williams
MBBS
Llundain 1982, MRCGP, DRCOG
Dr Martyn Glyn David Petty
MBChB
Manceinion 1986, DRCOG, BSc
Dr Sharon Wyn Bertorelli
MB,
ChB Caerdydd 1988
Dr Gareth Ford
MBChB, Caerdydd 1990,
MRCGP
Dr Ruth Johnson
BSc 1996, MBChB Lerpwl 1997, MRCS Glasgow 2002, MRCGP 2005, DFFP 2006
Dr Safia Akram
MBBS Islamabad 1990, MRCGP 2007, DFFP 2008
Meddyg Sesiynol ar gyfer Arolygu Plant
(a gyflogir gan y Partneriaid)
Dr Breda McCoy
MBBS
Staff
y Practis
Mae ein staff yn gweithio gyda’r Meddygon
Teulu i ddarparu cymorth a chyngor i’r cleifion ond weithiau gall eu gwaith
fod yn anodd.
Os byddwch yn gorfod aros am hir neu’n cael eich blino
gan gwestiynnau, cofiwch fod ein staff yn gweithredu’n unol â’n
cyfarwyddiadau ni er mwyn gwneud yn siwˆr fod y practis yn cael ei redeg
un effeithiol.
Mae’r practis yn cyflogi tua 24 o staff, a byddwch
yn eu hadnabod wrth oddi eu gwisg. Gall ein staff amrywio fel y bydd anghenion
y practis yn newid. Dyma’r staff ar hyn o bryd:
Rheolwr
y Practis
Mr Kevin Morris sy’n
rheoli gweithgareddau’r practis o ddydd i ddydd, ac mae ganddo gyfrifoldeb
ariannol am gyfrifon y practis.
Derbynyddion
Mae
gennym dderbynyddion yn y tair meddygfa, a’u gwaith yw cynorthwyo gyda’r
gwasanaeth i’r cleifion a’r gwaith gweinyddu. Mae eu dyletswyddau’n
cynnwys gwneud apwyntiadau, trefnu casglu amalbresgripsiynau, ffeilio ac adfer
cofnodion meddygol.
Derbynyddion/Dosbarthu
Meddyginiaethau
Mae’r staff hyn yn gweithio o’n
meddygfeydd ym Modedern a’r Fali, ac maent yn darparu cefnogaeth i’r
partneriaid, y cleifion a’r tîm gofal iechyd sylfaenol gyda gweinyddu,
gwaith derbynfa a dosbarthu meddyginiaeth.
Ysgrifenyddion
Mae
ein hysgrifenyddion yn darparu gwasanaeth llawn o gefnogaeth ysgrifenyddol i’r
practis yn ogystal â gwaith gweinyddol cyffredinol i’r clinigau.
Nyrsys
y Practis
Byddwch yn adnabod ein nyrsys oddi wrth eu gwisg
nyrs glas. Maent yn darparu gwasanaeth gwerthfawr gan gynnwys rhedeg
clinigau, trefnu brechiadau, rhoi cyngor ar iechyd, a rhoi profion gwaed. Dyma’u
henwau a’u cymwysterau:
| Bethan Hughes |
|
RGN, Bydwraig Gofrestredig |
| Angela Rylance |
|
RGN |
| Brenda Clannachan |
|
SEN, RGN, DipN |
| Ira Spencer |
|
SEN, RGN |
| Jane Rylance |
|
RGN |
| Glenys Williams |
|
Cynorthwyydd Gofal Iechyd |
Staff
Cysylltiol (Cyflogir gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
Ymwelwyr Iechyd
Ffôn: (01407) 766000
Bydd
Ymwelwyr Iechyd sydd wedi eu lleoli yn Ysbyty Penrhos Stanley yn dod i’n
tair meddygfa hefyd. Mae eu dyletswyddau’n cynnwys ymweld â’r
holl deuluoedd sydd â phlant o dan bump oed, a rhedeg Clinigau Imiwneiddio
Plant.
Nyrsys Cymunedol
Llinell
uniongyrchol: (01407) 766000
Mae’r Nyrsys Cymunedol wedi eu lleoli yu Ysbyty Penrhos Stanley ac maent yn darparu gofal nyrsio i gleifion sy’n methu
mynd i’r feddygfa.
Bydwragedd
Ffôn:
(01407) 766000
Mae’r bydwragedd yn rhedeg ein clinigau cynenedigol yn Ysbyty Penrhos Stanley, ac maent hefyd yn ymweld â
mamau cyn ac ar ôl geni. Byddant yn gofalu am y babi am y pythefnos gyntaf
o’i bywyd.
Cynghorydd
Bydd
Cynghorydd yn dod i’r feddygfa’n wythnosol i helpu cleifion sydd angen
cwnsela. Trefnir apwyntiadau trwy’r Meddygon Teulu.
Dietegydd
Bydd
Dietegydd yn dod i roi cyngor bob pythefnos. Trefnir apwyntiadau trwy’r
Meddygon Teulu neu Nyrsys y Practis.
Meddygon
Teulu dan Hyfforddiant/Myfyrwyr
Mae ein practis yn bractis
hyfforddi/addysgu. Mae ein Meddygon dan hyfforddiant wedi eu cymhwyso’n
llawn ac mae ganddynt lawer o brofiad o weithio mewn ysbyty. Bydd Meddygon dan
hyfforddiant ynghlwm wrth ein practis am gyfnodau rhwng chwe mis a blwyddyn,
ac mae cleifion yn gweld bod eu dull ffres a brwdfrydig o weithredu yn ychwanegu
at y gofal iechyd yr ydym yn ei ddarparu. Gan amlaf bydd y Meddygon dan hyfforddiant
yn dod yn bartneriaid Meddygon Teulu wedi iddynt gwblhau eu hyfforddiant, ac
maent bob amser yn cael eu hannog i ofyn am gyngor oddi wrth bartneriaid y practis
pan fyddant ei angen.
Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad, efallai y byddwn yn
gofyn i chi a hoffech gael eich gweld gan un o’n Meddygon dan hyfforddiant.
Maent yn Feddygon rhagorol ac wedi’u penodi gan y practis. Rydym yn hyderus
y byddant yn rhoi triniaeth fodern, effeithiol a llawn gofal i’n cleifion.
Rydym yn ffodus hefyd o gael myfyrwyr meddygol ynghlwm wrth ein practis
am gyfnodau byr. Gyda chaniatâd y claf gall y myfyrwyr meddygol fod yn bresennol
gyda’r partneriaid er mwyn iddynt ddysgu am ymarfer cyffredinol.
Hefyd
bydd Nyrsys sy’n fyfyrwyr ynghlwm wrth y Staff Nyrsio ar adegau.